|
Addunedau Blwyddyn Newydd gyda gwahaniaeth!
From: New Year's resolutions
with a difference! online resource
| ’Rydym i gyd yn gwneud addunedau Blwyddyn
Newydd, ond ’rydym fel arfer yn dewis newid rhywbeth
ynglyn â ni ein hunain - megis gwneud mwy o ymarfer
corff neu fwyta’n iachach. Yn 2007, ’rydym eisiau
i bobl ifanc (ac athrawon!) ymestyn eu syniadau tu hwnt i’r
newidiadau personol y byddent yn eu gwneud ac yn ystyried
sut, fel dosbarth, y gallent weithio ar y cyd i wella eu hysgol,
eu cymuned leol, a’u byd. |
| |
 |
| |
Llun: Crispin Hughes/Oxfam
|
Mae’r gweithgaredd hwn wedi ei gynllunio er mwyn helpu pobl ifanc i ddechrau 2007 drwy adeiladu ar y gred eu bod yn medru gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw eu hunain, i fywydau eu ffrindiau, i'w cymuned, i'w ysgol, i'w cenedl, ac i bobl ar draws y byd. Cliciwch
fan yma am fwy o wybodaeth ynglyn â Rhown Derfyn ar Dlodi.
Ynglyn â’r gweithgaredd
Defnyddiau cynorthwyol
Ynglyn â’r gweithgaredd
Mae’n addas ar gyfer disgyblion rhwng 7 a 14
oed, ac mae’r gweithgareddau’n berthnasol ar gyfer gwaith
mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol / Addysg Bersonol, Cymdeithasol
ac Iechyd / Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Dinasyddiaeth,
Addysg er Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Llythrennedd a Daearyddiaeth Ddynol.
Cewch chi ddewis sut i redeg y wers, ond ’rydym
wedi cynnwys rhai lluniau y gallwch eu defnyddio efallai i symbylu
syniadau a thrafodaethau ynglyn â gwhanol fathau o addunedau
Blwyddyn Newydd. Gall plant weithio ar y cyd i benderfynu beth mae’r
delweddau hyn yn awgrymu iddynt hwy, a’r hyn maent yn ei olygu
wrth fynd ati i feddwl am y newidiadau maent eisiau eu gweld yn
eu hamgylchedd personol, ysgol, lleol a byd-eang.
Mae’r gweithgaredd yn cynnwys her: all eich
dosbarth ddod o hyd i’r awgrymiadau a amlinellir yn yr wybodaeth?
Wrth gwrs, bydd y delweddau yn sbarduno amrywiaeth o wahanol syniadau
a phynciau y gellir ymchwilio iddynt yn y dosbarth, ond beth bynnag
fydd awgrymiadau a barn eich disgyblion, byddem ni yn Oxfam wrth
ein boddau clywed ynglyn â hwy.
Defnyddiau cynorthwyol
- Siart
lif yn amlinellu strwythur posibl ar gyfer gwers (lawrlywthyiad
ppt. 17KB)
- Pedair set o ddelweddau [i’w
defnyddio ar fwrdd-gwyn, sgrîn gyfrifiadur neu wedi eu hargraffu]:
Personol, Stafell-ddosbarth ac Ysgol, Cymuned Leol, a Byd-eang.
Mae’r rhain ar gael fel rhan o’r sleidiau y gallwch
eu lawrlwytho isod.
- Sleidiau
i’w dangos i’ch dosbarth [i’w defnyddio
ar fwrdd-gwyn]. Mae’n cynnwys fformat posibl ar gyfer helpu’r
dosbarth i feddwl ynglyn â ffyrdd ymarferol o wireddu eu
haddunedau (lawrlwythiad ppt. 3403KB. Dylech nodi fod hon yn ffeil
fawr a gall gymryd munud i lwytho).
- Syniadau
ar gyfer canlyniadau posibl o’r wers (lawrlwythiad ppt.
35KB). Mae’r sleid hon yn darparu enghreifftiau o’r
mathau o addunedau Blwyddyn Newydd ’rydym yn gobeithio y
bydd pobl ifanc yn eu gwneud o ganlyniadu i’r gweithgaredd
yma.
Mae hefyd yn awgrymu ffyrdd y gall athrawon ac ysgolion fod yn
gefnogol i ddatblygiad cynaladwy yn lleol ac yn fyd-eang, trwy
fod yn ddinasyddion gweithredol o’r byd.
- Defnyddio ffotograffau
yn y ’stafell-ddosbarth: canllawiau i athrawon.
- Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i roi diwedd
ar dlodi yn ystod 2005, cliciwch fan
yma.
From: New Year's resolutions
with a difference! online resource
|